xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
30.—(1) Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru ddarparu cyfarwyddydau cwmpasu.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys—
(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;
(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;
(c)datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; a
(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.
(3) Rhaid i berson sy’n gwneud cais yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r cais hwnnw a’r dogfennau sy’n mynd ynghyd â’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(4) Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.
(5) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r person sy’n gwneud y cais a’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1), a
(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r person sy’n gwneud y cais ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y cais hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(8) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion gymryd y materion a bennir yn rheoliad 13(6) i ystyriaeth.
(9) Nid oes unrhyw beth yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
(10) Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.