Rhagolygol
Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â sgrinioLL+C
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd ddigwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn penderfynu at ddiben y Rheoliadau hyn bod datblygiad yn ddatblygiad AEA.
(2) Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)cyflwyniad datganiad mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw gan y ceisydd neu’r apelydd y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; neu
(b)mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Mae cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn penderfynu pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA ai peidio at ddiben y Rheoliadau hyn.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad arfaethedig penodol a bennir yn y cyfarwyddyd yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (ond heb iddo leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb).
(5) Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4) rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod cynllunio perthnasol;
(b)sicrhau bod yr wybodaeth a ystyriwyd wrth wneud y cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd ar gael i’r cyhoedd;
(c)ystyried pa un a fyddai math arall o asesiad yn briodol; a
(d)cymryd unrhyw gamau y maent yn ystyried sy’n briodol er mwyn dod â’r wybodaeth a gafwyd o dan y math arall o asesiad i sylw’r cyhoedd.
(6) Pan fo’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu o dan y Rheoliadau hyn a yw datblygiad Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru ystyried cymaint o’r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 ag sy’n berthnasol i’r datblygiad wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
(7) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu pan wneir cyfarwyddyd sgrinio gan Weinidogion Cymru—
(a)rhaid cyflwyno’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ynghyd â datganiad sy’n nodi’r rhesymau llawn dros y casgliad hwnnw yn glir ac yn fanwl; a
(b)rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, anfon copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd a chopi o’r datganiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (a) i’r person sy’n bwriadu cynnal neu sydd wedi cynnal y datblygiad dan sylw.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio naill ai—
(a)o’u hewyllys eu hunain; neu
(b)os gofynnir iddynt wneud hynny gan unrhyw berson.
(9) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y datblygiad penodol hwnnw o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA er gwaethaf y ffaith nad oes yr un o’r amodau a gynhwysir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “datblygiad Atodlen 2” yn cael ei fodloni mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a chopi o’r datganiad sy’n ofynnol gan baragraff (7)(a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.