RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig

Cyfarwyddydau sgrinio43

1

Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 42 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

2

Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—

a

copi o’r hysbysiad rheoliad 42;

b

copi o’r hysbysiad gorfodi oedd yn mynd ynghyd ag ef; ac

c

pa bynnag wybodaeth neu sylwadau eraill y gallai’r ceisydd ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

3

Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais ac unrhyw wybodaeth neu sylwadau a ddarperir neu a wnaed yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 42.

4

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2)(a) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd i’r ceisydd.

6

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd i bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 42 atynt.