RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol46.

(1)

Mae’r weithdrefn ym mharagraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)

Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(b)

y materion yr honnir eu bod yn golygu torri’r rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA anawdurdodedig neu’n cynnwys datblygiad AEA anawdurdodedig; ac

(c)

nid yw’r dogfennau a gyflwynir at ddibenion yr apêl yn cynnwys datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2)

Y weithdrefn yw—

(a)

rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir yr apêl, neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, hysbysu’r apelydd o ofynion is-baragraff (c) isod; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)

nid oes angen hysbysu o dan is-baragraff (a) pan fo’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru at ddibenion apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) sydd yn—

(i)

ymwneud â’r datblygiad y mae’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ef; a

(ii)

i’w benderfynu ar yr un adeg â’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

ac mae’n rhaid trin y datganiad, unrhyw wybodaeth bellach, unrhyw wybodaeth arall a’r sylwadau (os oes rhai) a wneir mewn perthynas ag ef fel yr wybodaeth amgylcheddol at ddiben rheoliad 41;

(c)

rhaid i’r apelydd, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu pa bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru, gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA anawdurdodedig dan sylw i Weinidogion Cymru;

(d)

rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a anfonwyd i’r apelydd o dan is-baragraff (a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)

os bydd apelydd y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) iddo yn methu â chydymffurfio â gofynion is-baragraff (c), bydd y cais tybiedig ac unrhyw apêl sail (a) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennir neu a ganiateir (yn ôl y digwydd);

(f)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r terfynu a ddisgrifir yn is-baragraff (e) ddigwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol bod y cais tybiedig ac unrhyw apêl sail (a) wedi dod i ben.