6.—(1) Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 5(7) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—
(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 5(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;
(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 5(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;
(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a
(d)>unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.
(2) Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt hysbysu’r person sy’n gwneud y cais.
(4) Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir cais yn unol â rheoliad 5(7) neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) i’r person a wnaeth y cais cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol.