RHAN 13Amrywiol

Dirymu offerynnau statudol a darpariaethau trosiannol60

1

Mae’r offerynnau statudol yn Atodlen 8 wedi eu dirymu i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

2

Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1) yn effeithio ar barhad cymhwysiad yr offerynnau a ddirymir gan y paragraff hwnnw, ac nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys, mewn perthynas ag—

a

unrhyw gais a gofnodir neu a geir gan awdurdod cyn y dyddiad cychwyn,

b

unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae’r offerynnau hynny’n gymwys iddo yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009,

c

unrhyw apêl mewn perthynas â chais o dan is-baragraff (a) neu (b), neu

d

unrhyw fater y mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi, cyn y dyddiad hwnnw, dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.

3

Yn y rheoliad hwn, mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 52(1).