xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
60.—(1) Mae’r offerynnau statudol yn Atodlen 8 wedi eu dirymu i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
(2) Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1) yn effeithio ar barhad cymhwysiad yr offerynnau a ddirymir gan y paragraff hwnnw, ac nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys, mewn perthynas ag—
(a)unrhyw gais a gofnodir neu a geir gan awdurdod cyn y dyddiad cychwyn,
(b)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae’r offerynnau hynny’n gymwys iddo yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009,
(c)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o dan is-baragraff (a) neu (b), neu
(d)unrhyw fater y mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi, cyn y dyddiad hwnnw, dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 52(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 60 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)