RHAN 3Gweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio

Ceisiadau pan ymddengys bod barn sgrinio yn ofynnol7

Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

a

bod cais sydd ger ei fron i benderfynu arno yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

b

nad yw’r datblygiad dan sylw wedi bod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; a

c

nad oes ynghyd â’r cais datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 5 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 5(1).