Yn yr Atodlen hon—
nid yw “gorsaf bŵer niwclear” (“nuclear power station”) ac “adweithydd niwclear arall” (“other nuclear reactor”) yn cynnwys gosodiad o safle lle mae pob tanwydd niwclear a deunyddiau wedi eu halogi’n ymbelydrol wedi eu symud oddi yno’n barhaol; a rhaid peidio â thrin datblygiad at ddiben datgymalu neu ddadgomisiynu gorsaf bŵer niwclear neu adweithydd niwclear arall fel datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir ym mharagraff 2(b) yr Atodlen hon;
ystyr “gwibffordd” yw ffordd sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “express road” yng Nghytundeb Ewrop ar Briffyrdd Traffig Rhyngwladol, 15 Tachwedd 1975(1);
ystyr “maes awyr” (“airport”) yw maes awyr sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “airport” yng Nghonfensiwn Chicago 1944 yn sefydlu’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (Atodiad 14)(2).
Gweler Papur Gorchymyn 6993.
Gweler Papur Gorchymyn 6614.