Lleoliad y datblygiad
2. Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r nodweddion a ganlyn—
(a)y defnydd presennol o’r tir;
(b)digonedd cymharol, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol yn yr ardal;
(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd canlynol—
(i)gwlypdiroedd;
(ii)parthau arfordirol;
(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)ardaloedd a ddosberthir neu a amddiffynnir o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau, ardaloedd a ddynodir gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(2);
(vi)ardaloedd lle rhagorwyd ar y safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr UE yn barod;
(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;
(viii)tirweddau o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.
O.J. Rhif L 20, 26.1.2010, t. 7.
O.J. Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7.