xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
Rheoliad 4(6)
1. Rhaid ystyried nodweddion y datblygiad gan roi sylw yn arbennig ar—
(a)maint y datblygiad;
(b)y cyfuniad gyda datblygiad arall;
(c)y defnydd o adnoddau naturiol;
(d)cynhyrchu gwastraff;
(e)llygredd a niwsans;
(f)y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw yn arbennig i’r sylweddau neu’r technolegau a ddefnyddir.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
2. Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r nodweddion a ganlyn—
(a)y defnydd presennol o’r tir;
(b)digonedd cymharol, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol yn yr ardal;
(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd canlynol—
(i)gwlypdiroedd;
(ii)parthau arfordirol;
(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)ardaloedd a ddosberthir neu a amddiffynnir o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau, ardaloedd a ddynodir gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(2);
(vi)ardaloedd lle rhagorwyd ar y safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr UE yn barod;
(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;
(viii)tirweddau o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol potensial y datblygu mewn perthynas â’r meini prawf a nodir o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a rhoi sylw yn arbennig i’r canlynol—
(a)graddau’r effaith (arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b)natur drawsffiniol yr effaith;
(c)maint a chymhlethdod yr effaith;
(d)tebygolrwydd yr effaith;
(e)parhad, amledd a gwrthdroadwyedd yr effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
O.J. Rhif L 20, 26.1.2010, t. 7.
O.J. Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7.