xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4Gwybodaeth i’w chynnwys mewn datganiadau amgylcheddol

RHAN 1

1.  Disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol yr holl ddatblygiad a’r gofynion o ran y defnydd o’r tir yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur ac ansawdd y deunyddiau a ddefnyddir;

(c)amcangyfrifiad, yn ôl math ac ansawdd, o’r gweddillion a’r allyriadau (llygredd dŵr, aer a phridd, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, etc.) o ganlyniad i weithrediad y datblygiad arfaethedig.

2.  Amlinelliad o’r prif ddewisiadau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd a dynodi’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan gymryd yr effeithiau amgylcheddol i ystyriaeth.

3.  Disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan y datblygiad, gan gynnwys yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y dirwedd a’r gydberthynas rhwng y ffactorau uchod.

4.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd, a ddylai gynnwys yr effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, tymor byr, tymor canolig a thymor hir, parhaol a dros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad o ganlyniad i—

(a)bodolaeth y datblygiad;

(b)y defnydd o adnoddau dynol;

(c)allyriad llygryddion, creu niwsans a chael gwared â gwastraff,

a disgrifiad gan y ceisydd neu’r apelydd o’r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu’r effeithiau ar yr amgylchedd.

5.  Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i atal, lleihau a, phan fo modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

6.  Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o’r Rhan hon.

7.  Dynodiad o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg medrusrwydd) a ddaw i ran y ceisydd neu’r apelydd wrth gasglu’r wybodaeth ofynnol.