Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016

Diwygio

2.  Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 3(1)—

(i)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “athro neu athrawes enwebedig” (“nominated teacher”) yw person a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei enwebu gan y pennaeth pan fo’r pennaeth yn ystyried bod hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau; a

(ii)yn y diffiniad o “anghymhwysedd proffesiynol difrifol”, yn lle “anghymhwysedd ar lefel” rhodder “cymhwysedd ar lefel”;

(b)yn rheoliad 16, ar ôl “yn rhinwedd”, yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd, mewnosoder “rheoliad 18A neu”;

(c)yn rheoliad 18, ar ôl “(cofrestr a gynhelir gan y Cyngor)” mewnosoder “yn y categori athro neu athrawes ysgol”;

(d)ar ôl Rhan 3 mewnosoder—

RHAN 3AY gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion

18A.(1) Mae gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yn berson sy’n darparu’r gwasanaethau a bennir yn rheoliad 17 (“y gwasanaethauneu sy’n cefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol.

(2) Ni chaniateir i weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ddarparu’r gwasanaethau neu gefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol oni bai—

(a)ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolion;

(b)ei fod yn darparu’r gwasanaethau gan ryngweithio’n uniongyrchol â dysgwyr i gynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;

(c)ei fod yn darparu’r gwasanaethau o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn unol â threfniadau a wneir gan bennaeth yr ysgol; a

(d)bod y pennaeth yn fodlon ei fod yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i ddarparu’r gwasanaethau.

(3) Wrth benderfynu a oes gan berson y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (2)(d) mewn ysgol, rhaid i benaethiaid roi ystyriaeth i—

(a)y safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu’r canllawiau sy’n ymwneud â’r cymwysterau ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; a

(b)canllawiau ar y materion cytundebol sy’n ymwneud â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall.;

(e)ar ôl Rhan 4 mewnosoder—

RHAN 4AY gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach

Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach

19A.  Ni chaniateir i berson ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn adran 16(2) o Ddeddf 2014 oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.; ac

(f)yn Atodlen 3 hepgorer paragraff 8.