http://www.legislation.gov.uk/wsi/2016/60/contents/made/welsh
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-12-01
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn ar gyfer penderfynu ar apelau dilysu a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Yn unol ag adran 62ZB(6) mae apelau dilysu yn cael eu hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig. Mae’r weithdrefn yn cynnwys y camau a ganlyn—rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad eu bod wedi cael yr apêl (rheoliad 3);ni roddir cyfle i’r apelydd nac i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno sylwadaethau ar sylwadau’r naill a’r llall (rheoliad 4); acrhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol am eu penderfyniad a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw (rheoliad 6).