- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
(2) Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a)os yw’r deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio yn ymwneud â chais deiliad tŷ arfaethedig, darparu i’r ceisydd yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 7; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, darparu i’r ceisydd yr wybodaeth a bennir yn rheoliadau 7 ac 8.
(3) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a)21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu
(b)pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec a’r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.
(4) Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: