Search Legislation

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 639 (Cy. 175)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

Gwnaed

12 Gorffennaf 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Gorffennaf 2016

Yn dod i rym

2 Awst 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriadau at ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/2009(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(4) o’r Ddeddf honno.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2009 (p. 7), O.S. 2007/1388 ac O.S. 2014/2303 (Cy. 227).

(3)

OJ Rhif L 181, 29.6.2013, t. 35.

(4)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources