Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig15

1

Pan—

a

cyflawnir trosedd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol neu bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig arall; a

b

profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—

a

mewn perthynas â chorff corfforaethol —

i

cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;

ii

os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;

b

mewn perthynas â phartneriaeth, partner;

c

mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

3

Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

4

At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

a

rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;

b

adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 19256; ac

c

Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 19807.

5

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.