Arolygiad cyfnodol o gronfeydd dŵr risg uchel
9.—(1) At ddibenion adran 10(2) o Ddeddf 1975, mae cronfa ddŵr risg uchel i’w harolygu ar bob un o’r adegau a ganlyn—
(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cwblhau unrhyw addasiad i’r gronfa ddŵr—
(i)nad yw’n cynyddu neu’n lleihau ei chynhwysedd;
(ii)y gallai’r fath addasiad effeithio ar ei diogelwch; a
(iii)sydd heb ei ddylunio na’i oruchwylio gan beiriannydd sifil cymwysedig;
(b)ar unrhyw adeg a argymhellir gan y peiriannydd sy’n goruchwylio o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975;
(c)ar unrhyw adeg a argymhellir yn adroddiad y peiriannydd sy’n arolygu a luniwyd o dan adran 10(3) o Ddeddf 1975;
(d)o fewn blwyddyn i’w dynodi o dan adran 2B o Ddeddf 1975;
(e)yn ddim hwyrach na 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr arolygiad diweddaraf a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac unwaith bob 10 mlynedd wedi hynny.
(2) Nid yw paragraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw gronfa ddŵr a gofrestrwyd fel cyforgronfa ddŵr fawr yn flaenorol o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985(1).
(3) Nid yw’r gofyniad i arolygu cronfa ddŵr risg uchel o dan adran 10(2) o Ddeddf 1975 wedi ei gyflawni pan bod yr arolygiad wedi ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo peiriannydd sy’n arolygu sy’n gweithredu o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975 neu beiriannydd sy’n goruchwylio sy’n gweithredu o dan adran 10(3) o’r Ddeddf honno yn argymell bod arolygiad yn cael ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.