- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 4 a 6
1. Enw a safle’r gronfa ddŵr.
2. Cyfeirnod grid cenedlaethol y gronfa ddŵr.
3. Enw a chyfeiriad pob ymgymerwr sydd yn gyfrifol am y gronfa ddŵr.
4. Crynodeb o gynnwys pob tystysgrif neu adroddiad a wnaed o dan Ddeddf 1975, neu Ddeddf 1930, gan gynnwys—
(a)enw a chyfeiriad y peiriannydd sy’n rhoi’r dystysgrif neu’n gwneud yr adroddiad;
(b)yr adran o ba bynnag Ddeddf y rhoddir y dystysgrif neu y gwneir yr adroddiad oddi tani;
(c)pan nad yw tystysgrif derfynol wedi ei rhoi o dan Ddeddf 1975, datganiad o’r ffaith honno;
(d)pan nad yw tystysgrif derfynol wedi ei rhoi o dan Ddeddf 1930 am fod gwaith adeiladu neu addasu’r gronfa ddŵr wedi ei gwblhau cyn dechrau’r Ddeddf honno, datganiad o’r ffaith honno.
5. Yr wybodaeth ganlynol os caiff ei datgelu gan unrhyw dystysgrif, adroddiad neu ddatganiad—
(a)categori’r gronfa ddŵr (cronfa sy’n cronni neu gronfa nad yw’n cronni);
(b)y flwyddyn/blynyddoedd y cafodd argae/argaeau, waliau neu argloddiau’r gronfa ddŵr eu cwblhau;
(c)adeiladwaith yr argae/argaeau, waliau’r gronfa ddŵr neu arglawdd/argloddiau (h.y. boed wedi ei adeiladu o bridd, cerrig, disgyrchiant, bwtres neu ddull arall);
(d)lefel uchaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;
(e)lefel uchaf dŵr y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;
(f)uchder mwyaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau’r gronfa ddŵr wedi ei fesur mewn metrau o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol, i frig yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau’r gronfa ddŵr, ac eithrio uchder y wal donnau;
(g)capasiti’r gronfa ddŵr;
(h)arwynebedd dŵr y gronfa ddŵr ar lefel uchaf y dŵr (mewn metrau sgwâr neu gilometrau sgwâr).
6. Enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd goruchwylio neu, os yw’r gronfa ddŵr o dan oruchwyliaeth y peiriannydd adeiladu, enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd hwnnw.
7. Dyddiad cynnal yr arolygiad nesaf o dan Ddeddf 1975 neu unrhyw ddyddiad yr argymhellir y dylid cynnal yr arolygiad nesaf o dan Ddeddf 1975 gan y peiriannydd goruchwylio neu arolygu.
8. Manylion unrhyw benodiad a wnaed gan CANC o dan adran 15 o Ddeddf 1975.
9. Manylion unrhyw benodiad a wnaed gan CANC o dan adran 16 o Ddeddf 1975, gan gynnwys y dyddiad y cofnodwyd y manylion.
10. Pa un a ddynodir y gyforgronfa ddŵr fawr yn un â pherygl uchel.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: