NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1513) (Cy. 175).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wneir o dan adran 21(5) o Ddeddf 1993, esemptio, o ran Cymru, ddosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os ydynt wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r cyfryw leoedd tân i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn esemptio dosbarthau ar leoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr ail golofn a’r drydedd golofn o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r dosbarth hwnnw ar leoedd tân.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.