xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
25 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 257(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. 5 Awst 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn ddod i rym—
(a)darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen at ddiben gwneud rheoliadau; a
(b)darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen at ddiben dyroddi canllawiau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
Erthygl 2
1. Adran 23 (darpariaethau atodol).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. Adran 29 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
3. Adran 32(4) (yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud
4. Adran 45(3) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. para. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud
5. Adran 94 (penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. para. 5 mewn grym ar y dyddiad gwneud
6. Adran 112 (tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. para. 6 mewn grym ar y dyddiad gwneud
7. Adran 131 (tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. para. 7 mewn grym ar y dyddiad gwneud
8. Adran 203(5) a (6) (adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. para. 8 mewn grym ar y dyddiad gwneud
9. Adran 221 (gwaredu eiddo).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. para. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud
10. Adran 236(3) a (4) (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. para. 10 mewn grym ar y dyddiad gwneud
11. Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (ymestyn y cyfnod perthnasol).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. para. 11 mewn grym ar y dyddiad gwneud
12. Paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. para. 12 mewn grym ar y dyddiad gwneud
13. Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (llety myfyrwyr).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. para. 13 mewn grym ar y dyddiad gwneud
14. Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (llety nad yw’n llety cymdeithasol).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. para. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud
15. Paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. para. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud
16. Paragraff 4(7) a (8) o Atodlen 4 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniol).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. para. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud
17. Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (cynlluniau blaendal).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. para. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud
18. Paragraff 5(7) a (8) o Atodlen 7 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. para. 18 mewn grym ar y dyddiad gwneud
19. Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (amrywio).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. para. 19 mewn grym ar y dyddiad gwneud
20. Paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. para. 20 mewn grym ar y dyddiad gwneud
21. Adran 116(4) (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. para. 21 mewn grym ar y dyddiad gwneud
22. Adran 146(1) (gwahardd dros dro: canllawiau).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. para. 22 mewn grym ar y dyddiad gwneud
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 5 Awst 2016 at ddibenion gwneud rheoliadau a dyroddi canllawiau.
Mae erthygl 2(a) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben gwneud rheoliadau yn unig.
Mae erthygl 2(b) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben dyroddi canllawiau yn unig.