Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 85 (Cy. 39)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Chwefror 2016

Yn dod i rym

1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 53(11)(1) a (12), 56(5), 73(1), 81(5)(2), 105(1) a (2) a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

Rhoddodd adran 68(1) a (2)(c)(i) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) y geiriau “Welsh Ministers” yn lle “National Assembly for Wales” yn adran 53(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (“Deddf 2000”).

(2)

Rhoddodd adran 26 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) (“Deddf 2011”), a pharagraffau 7 a 48(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 4 iddi, y geiriau “Welsh Ministers” yn lle “Secretary of State” yn adran 81(5) o Ddeddf 2000. Diddymwyd is-adran (8) o adran 81 o Ddeddf 2000 gan adran 26 o Ddeddf 2011, a pharagraffau 7 a 48(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 4 iddi, ac adran 237 o Ddeddf 2011 a Rhan 5 o Atodlen 25 iddi.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 53, 56, 73, 81, 105 a 106 i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.