Search Legislation

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

2.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “aelod pwyllgor cymunedol” (“community committee member”), ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdodau”;

(b)yn lle’r diffiniad o “awdurdod tân” (“fire authority”) rhodder—

“ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;;

(c)yn y diffiniad o “aelod annibynnol” (“independent member”), yn lle’r geiriau o “o’r awdurdod perthnasol” i “chyngor cymuned” rhodder “o awdurdod perthnasol na chyngor cymuned”;

(d)yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1)(3) o Ddeddf 2000;;

(e)yn lle’r diffiniad o “aelod panel lleyg” (“lay panel member”), rhodder—

“ystyr “aelod panel lleyg” (“lay panel member”) yw aelod o banel a sefydlir o dan reoliad 15—

(a)

nad yw, ac nad yw wedi bod, yn aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog o awdurdod perthnasol na chyngor cymuned, neu

(b)

nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog o awdurdod perthnasol na chyngor cymuned;;

(f)yn lle’r diffiniad o “gweithrediaeth maer a chabinet” (“mayor and cabinet executive”), rhodder—

“ystyr “gweithrediaeth maer a chabinet” (“mayor and cabinet executive”) yw’r math o drefniadau gweithrediaeth a bennir yn adran 11(2) o Ddeddf 2000;;

(g)yn y diffiniad o “aelod” (“member”), ym mharagraff (b), yn lle “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”;

(h)yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), ym mharagraff (ch) yn lle “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”;

(i)yn y diffiniad o “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”), hepgorer y geiriau “awdurdod perthnasol”;

(j)yn lle’r diffiniad o “pwyllgor safonau” (“standards committee”) rhodder—

“ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw—

(a)

pwyllgor safonau awdurdod perthnasol;

(b)

cyd-bwyllgor;

(c)

is-bwyllgor adran 54A; neu

(d)

is-bwyllgor cymunedol;.

(3Yn rheoliad 4, ym mharagraff (a), ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdodau”.

(4Yn rheoliad 8, ym mharagraff (3), yn lle “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”.

(5Yn lle rheoliad 9, rhodder—

9.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth ni chaiff pwyllgor safonau gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o’r awdurdod hwnnw.

(2) Pan fo dau awdurdod lleol neu ragor wedi sefydlu cyd-bwyllgor, ni chaiff y pwyllgor hwnnw gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o bob un awdurdod lleol cyfansoddol.

(6Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl y gair “hwnnw” mewnosoder “neu yn achos cyd-bwyllgor, yn ardal yr awdurdodau lleol cyfansoddol”;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, gan ba un bynnag o awdurdodau lleol cyfansoddol y pwyllgor hwnnw y cytunir arno rhyngddynt”;

(c)ym mharagraff (3)(a), ar ôl “ardal” mewnosoder “neu yn achos cyd-bwyllgor, ardaloedd cyfun yr awdurdodau cyfansoddol”.

(7Cyn rheoliad 13, yn syth ar ôl y pennawd “Penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau safonau”, mewnosoder—

12A.(1) Yn rheoliadau 13 i 17 mae gofyniad ar awdurdod perthnasol neu weithred ganddo mewn cysylltiad ag ardal yr awdurdod hwnnw yn cynnwys, yn achos cyd-bwyllgor, ardaloedd cyfun awdurdodau cyfansoddol y pwyllgor hwnnw.

(2) Yn rheoliadau 13 i 17 caniateir i ofyniad ar awdurdod perthnasol gael ei gyflawni, yn achos cyd-bwyllgor, gan unrhyw un o’r awdurdodau lleol cyfansoddol.

(8Yn rheoliad 18—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol sy’n aelod o’r awdurdod hwnnw beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf ar gyfer yr awdurdod hwnnw yn dilyn penodi’r aelod i’r pwyllgor.;

(b)ym mharagraff (2), ar y diwedd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, o awdurdod lleol cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw”.

(9Yn rheoliad 18A—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol sy’n aelod pwyllgor cymunedol beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan yr etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor cymuned y mae’n aelod ohono yn dilyn ei benodi i’r pwyllgor safonau.;

(b)ym mharagraff (2), ar y diwedd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, o awdurdod lleol cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw”.

(10Yn rheoliad 19—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Pan fo awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n awdurdod tân ac achub, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau’r awdurdod hwnnw sy’n aelod o awdurdod o’r fath beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan y bydd yr aelod hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw.;

(b)ym mharagraff (2), ar y diwedd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, o awdurdod perthnasol cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw”.

(11Yn rheoliad 21—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18 a pharagraff (2) o reoliad 19, caniateir i aelod o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol sy’n aelod o’r awdurdod hwnnw, neu yn achos cyd-bwyllgor sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw, gael ei ailbenodi am un tymor olynol pellach.;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, gan ba un bynnag o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol y cytunir arno rhyngddynt,”.

(12Yn rheoliad 21A—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, gan ba un bynnag o’r awdurdodau lleol cyfansoddol y cytunir arno rhyngddynt,”;

(b)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “ardal” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, ardaloedd cyfun yr awdurdodau cyfansoddol”.

(13Yn rheoliad 22, ar ddiwedd paragraff (8) mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, i swyddog priodol pa un bynnag o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol y cytunir arno rhyngddynt at y diben hwnnw”.

(14Yn rheoliad 23, ym mharagraff (1), ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdodau”.

(15Yn rheoliad 25, yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Rhaid i swyddog monitro neu gynrychiolydd swyddog monitro awdurdod perthnasol, neu yn achos cyd-bwyllgor, swyddog monitro neu gynrychiolydd swyddog monitro awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor hwnnw, fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o’r pwyllgor safonau.

(16Yn rheoliad 26, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) (a) Yn ddarostyngedig i’r is-baragraffau a ganlyn, rhaid darllen adrannau 100B i 100D fel pe na baent yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor safonau gyhoeddi, neu sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd fel arall, agendâu, cofnodion, neu wybodaeth sy’n gysylltiedig â mater a atgyfeirir at ei bwyllgor safonau yn unol ag adran 70(4) neu (5) neu adran 71(2) neu (4) o Ddeddf 2000;

(b)bydd yr eithriad i’r gofynion i ddarparu mynediad i agendâu ac adroddiadau y darperir ar ei gyfer yn is-baragraff (a) yn peidio â bod yn gymwys pan fo trafodion y pwyllgor safonau yn dod i ben;

(c)yn is-baragraff (b) ystyr bod y trafodion yn dod i ben yw’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn a bennir yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(4):

(i)bod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno hysbysiad yn gofyn am ganiatâd i apelio o dan reoliad 10(2) yn dod i ben;

(ii)ceir hysbysiad am benderfyniad llywydd Panel Dyfarnu Cymru neu aelod enwebedig o’r panel yn unol â rheoliad 10(9);

(iii)ceir hysbysiad am gasgliad unrhyw apêl yn unol â rheoliad 12 (a)(i) neu (b); neu

(iv)bod y pwyllgor safonau yn gwneud dyfarniad pellach ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apêl o dan reoliad 12(a)(ii);

(d)rhaid i’r pwyllgor safonau gyhoeddi’r deunyddiau y mae is-baragraff (a) yn cyfeirio atynt cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl i’r trafodion ddod i ben.

(17Yn rheoliad 28, ym mharagraff (1), ar ôl “awdurdod perthnasol o dan sylw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, swyddog priodol awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor hwnnw,”.

(18Yn rheoliad 29 ar ôl “awdurdod perthnasol” yn y ddau le y mae’n digwydd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, un o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol,”.

(19Ar ôl rheoliad 30 mewnosoder—

Trefniadau trosiannol atodol

31.  Caiff person sy’n aelod o bwyllgor safonau ar y dyddiad y mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn dod i rym barhau yn ei swydd hyd ddyddiad yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf, os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu hynny, oni bai bod y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r awdurdod perthnasol o dan sylw cyn dyddiad yr etholiadau hynny.

(3)

>Diwygiwyd adran 53(1) gan adran 68(1) a (2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).

(4)

O.S. 2001/2281 (Cy. 171), fel y’i diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources