Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad” (“assessment”) yw’r asesiad a gynhelir gan awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau hyn;

mae i “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) yr ystyr a roddir yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014(1);

ystyr “darparwr gofal plant” (“childcare provider”) yw unrhyw berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur i ddarparu gofal plant;

ystyr “darparwyr gofal plant yn y cartref” (“home childcare providers”) yw personau a gymeradwyir o dan gynllun a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(2);

mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i (“school day”) yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;

ystyr “fforwm addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal, y mae ei aelodaeth yn cynnwys yr awdurdod lleol a’r personau eraill hynny y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol(3);

mae i “gofal dydd” (“day care”) yr ystyr a roddir yn Rhan 2 o’r Mesur;

mae i “gofal plant” yr ystyr a roddir i (“childcare”) yn adran 30 o’r Ddeddf;

ystyr “grŵp monitro chwarae” (“play monitoring group”) yw grŵp a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn ei ardal, y mae ei aelodaeth yn cynnwys yr awdurdod lleol a’r personau eraill hynny y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;

mae i “gwarchod plant” (“child minding”) yr ystyr a roddir yn Rhan 2 o’r Mesur;

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw mangre y mae person yn gweithredu fel darparwr gofal plant ynddi;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(4);

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i (“compulsory school age”) yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(5).

(2Yn y Rheoliadau hyn, y mathau o ofal plant yw–

(a)gwarchod plant;

(b)pob un o’r mathau o ofal dydd a nodir mewn safonau a wneir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac y mae rhaid rhoi sylw iddynt yn unol ag adran 30(3) o’r Mesur; ac

(c)darparwyr gofal plant yn y cartref (nanis).

Y ddyletswydd i lunio a chyhoeddi asesiadau

3.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi asesiadau o ddigonolrwydd y gofal plant a ddarperir yn ei ardal.

(2Rhaid cyhoeddi’r asesiad cyntaf erbyn 31 Mawrth 2017.

(3Rhaid llunio a chyhoeddi asesiadau dilynol bob pum mlynedd.

(4Wrth lunio asesiad rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid ir awdurdod lleol anfon copi o’r asesiad a lunnir o dan baragraffau (2) a (3) i Weinidogion Cymru.

Cynllun Gweithredu

4.—(1Rhaid i bob asesiad a lunnir gan yr awdurdod lleol gynnwys cynllun gweithredu.

(2Pan fo asesiad yn nodi—

(a)bod y ddarpariaeth gofal plant yn annigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i’r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i wella’r cyfleoedd i blant gael mynediad i ddarpariaeth gofal plant o fewn yr ardal awdurdod lleol honno, neu

(b)bod y cyfleoedd i blant gael mynediad i ofal plant yn ddigonal, yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i’r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i gynnal y cyfleoedd i gael mynediad i ofal plant o fewn yr ardal awdurdod lleol honno.

Y materion sydd i gael eu cynnwys yn yr asesiad

5.  Mae’r Atodlen (sy’n rhagnodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys yn yr asesiad) yn cael effaith.

Ymgynghori

6.  Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r rhai o blith y canlynol yn ei ardal, y mae’n ystyried eu bod yn briodol—

(a)plant;

(b)rhieni neu ofalwyr;

(c)darparwyr gofal plant;

(d)personau sy’n cynrychioli—

(i)plant;

(ii)rhieni neu ofalwyr;

(iii)darparwyr gofal plant;

(e)personau a chanddynt fuddiant mewn gofal plant;

(f)personau sy’n cynrychioli’r rheini a chanddynt fuddiant mewn gofal plant;

(g)personau sy’n cynrychioli cyflogwyr a chyrff cyflogwyr lleol;

(h)cyflogwyr lleol;

(i)awdurdodau lleol cyfagos;

(j)ysgolion;

(k)colegau addysg bellach.

7.  Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ymgynghori â’r canlynol—

(i)y Bwrdd Diogelu Plant y mae’n bartner Bwrdd Diogelu iddo(6);

(ii)os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol, y fforwm addysg cyfrwng Cymraeg;

(iii)os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol, y grŵp monitro chwarae; a

(b)hysbysu unrhyw swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith yn ardal yr awdurdod lleol a’u gwahodd i gyflwyno unrhyw sylwadau.

Asesiad Drafft

8.  Cyn cyhoeddi’r asesiad a lunnir o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi drafft o’r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol am gyfnod o 28 o ddiwrnodau er mwyn rhoi’r cyfle i’r personau y mae wedi ymgynghori â hwy gyflwyno sylwadau ar y drafft.

9.  Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r asesiad drafft yn y ffordd sy’n briodol yn ei farn ef wrth ymateb i unrhyw sylwadau a geir.

Dull cyhoeddi’r asesiad

10.  Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol.

11.  Caiff yr awdurdod lleol ddarparu copïau o’r asesiad i’r cyhoedd ar gais.

Adroddiadau cynnydd blynyddol

12.  Yn sgil cyhoeddi’r asesiad cyntaf, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad blynyddol ar gynnydd—

(a)yr asesiad cyntaf;

(b)yr asesiadau dilynol sy’n ofynnol o dan reoliad 3(3).

Dirymu

13.  Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013(7) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources