YR ATODLENY materion sydd i gael eu cynnwys yn yr asesiad

Rheoliad 5

1

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol” (“childcare costs element of universal credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan adran 12 o Ddeddf Diwygio Lles 201210 ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 201311;

  • ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd treth gwaith” (“childcare costs element of working tax credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd treth gwaith o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002 ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i’w Gael a’r Gyfradd Uchaf) 200212;

  • ystyr “gofal plant â chymorth cyflogwr” (“employer supported childcare”) yw cynllun cymorth a ddarperir gan gyflogwr sy’n gymwys i gael ymwared rhag treth o dan adrannau 35 ac 36 o Ddeddf Cyllid 201113 ac Atodlen 8 iddi;

  • ystyr “gofal plant di-dreth” (“tax free childcare”) yw’r cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Taliadau Gofal Plant 201414;

  • ystyr “hyd sesiwn” (“session length”) yw’r cyfnod hwyaf o amser y bydd darparwr gofal plant yn gofalu am blentyn mewn diwrnod;

  • ystyr “rhestr aros y darparwr gofal plant” (“childcare providers waiting list”) yw’r rhestr o’r ceiswyr sy’n aros am gynnig lle gofal plant oddi wrth y darparwr gofal plant mewn cysylltiad â phlentyn.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i asesiad yr awdurdod lleol gynnwys mewn cysylltiad â phob math o ofal plant a bennir yn rheoliad 2(2), fanylion ynghylch—

a

cyfanswm nifer—

i

y lleoedd gofal plant sydd wedi eu llenwi;

ii

y lleoedd gofal plant sy’n ofynnol;

b

nifer y lleoedd gofal plant llawnamser a rhan-amser-

i

sydd wedi eu llenwi;

ii

sy’n ofynnol;

c

nifer—

i

y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol, y caniateir i’r elfen costau gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol gael ei defnyddio ar eu cyfer;

ii

y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol, y gallai rhieni ddefnyddio gofal plant â chymorth cyflogwr neu ofal plant di-dreth ar eu cyfer;

iii

y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol gan blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;

iv

y lleoedd gofal plant am ddim sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol gan blant 2 flwydd oed;

v

y lleoedd cyfnod sylfaen am ddim sydd wedi eu llenwi, y nifer sy’n ofynnol a’r nifer sydd ar gael i blant 3 a 4 blwydd oed;

vi

y lleoedd sydd wedi eu llenwi a’r nifer sy’n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg;

vii

y lleoedd gwag; a

viii

y plant sydd ar restrau aros y darparwyr gofal plant;

d

yr adegau—

i

pan fo’r gofal plant yn ofynnol;

ii

pan fo’r gofal plant ar gael;

e

ystod y gwasanaethau a gynigir gan y darparwr gofal plant;

f

ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan y darparwr gofal plant;

g

y math o ddarparwr gofal plant sy’n cynnig oriau hyblyg ar gyfer gofal plant;

h

nifer y darparwyr gofal plant sy’n cynnig oriau hyblyg ar gyfer gofal plant;

i

ystod oedran y plant yn y mathau o ofal plant a bennir yn rheoliad 2(2); a

j

ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.

3

Nid yw’r manylion ym mharagraffau 2(iv) a (v) yn ofynnol mewn perthynas â darparwyr gofal plant yn y cartref.

Dosbarthiad daearyddol

4

Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

a

dosbarthiad daearyddol pob math o ofal plant yn ardal yr awdurdod lleol; a

b

unrhyw fylchau yn y dosbarthiad daearyddol hwnnw.

5

Caiff yr asesiad ystyried y gofal plant sydd ar gael y tu allan i ardal yr awdurdod lleol ond sydd ar gael i bobl sy’n byw yn yr ardal.

Cynaliadwyedd6

Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar gynaliadwyedd darparwyr gofal plant presennol yn ardal yr awdurdod lleol.

Ffigurau a thueddiadau rhagamcanol ar gyfer y boblogaeth7

Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

a

ffigurau poblogaeth rhagamcanol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol; a

b

y prif dueddiadau a ffactorau sy’n debygol o effeithio ar y ffigurau hynny.

Dadansoddiad o’r bylchau8

Rhaid i’r asesiad gynnwys dadansoddiad o’r cyflenwad a’r galw ac unrhyw fwlch yn y cyflenwad a’r galw am ddarpariaeth gofal plant yn ardal yr awdurdod lleol, gan gynnwys yn benodol—

a

darpariaeth gofal plant ar gyfer plant y mae eu rhieni yn gweithio oriau annodweddiadol;

b

darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg; ac

c

darpariaeth gofal plant ar gyfer categorïau iaith gwahanol.

Crynodeb anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu9

Rhaid i’r asesiad gynnwys crynodeb o’r anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r canlynol—

a

y mathau o ofal plant sydd ar gael;

b

oedran y plant y mae gofal plant ar gael iddynt;

c

fforddiadwyedd gofal plant;

d

adegau pan fo gofal plant ar gael; ac

e

lleoliad y gofal plant.

Rhwystrau i ddarpariaeth gofal plant10

Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

a

hygyrchedd darpariaeth gofal plant;

b

y rhwystrau a brofir gan—

i

rhieni sy’n gweithio;

ii

rhieni sy’n ceisio gwaith neu gyfleoedd hyfforddi;

iii

aelwydydd di-waith;

iv

teuluoedd ar incwm isel;

v

teuluoedd rhiant unigol;

vi

teuluoedd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig;

vii

teuluoedd a chanddynt blant ag anghenion addysgol arbennig, neu anabledd.

Datblygu a hyfforddi11

Rhaid i’r asesiad gynnwys manylion ynghylch—

a

cymwysterau gofal plant sydd gan y gweithlu eisoes;

b

anghenion hyfforddi’r gweithlu.