RHAN 6Darpariaeth Drosiannol

Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud ag anghydfodau y mae achosion cyfreithiol wedi cychwyn mewn cysylltiad â hwy cyn 1 Mawrth 2016

18.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys o ran unrhyw anghydfod sy’n ymwneud â materion sy’n codi cyn 1 Mawrth 2016 o dan—

(a)contract gwasanaethau meddygol cyffredinol;

(b)contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol; neu

(c)trefniant o dan adran 64 o’r Ddeddf,

sy’n gontract GIG neu nad yw’n gontract GIG.

(2Os yw achos cyfreithiol sy’n ymwneud â’r anghydfod wedi cychwyn cyn 1 Mawrth 2016, mae’r darpariaethau a ddiwygir gan—

(a)rheoliadau 4 ac 8 (yn achos anghydfod sy’n ymwneud â chontract gwasanaethau meddygol cyffredinol);

(b)rheoliadau 10 a 12 (yn achos anghydfod sy’n ymwneud â chontract gwasanaethau deintyddol cyffredinol); neu

(c)rheoliadau 14 ac 16 (yn achos anghydfod sy’n ymwneud â threfniant o dan adran 64 o’r Ddeddf),

i gael effaith mewn perthynas â’r anghydfod hwnnw fel pe na bai’r darpariaethau hynny wedi dod i rym.