RHAN 3Diwygio Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau GMS

Diwygio Atodlen 2 i Reoliadau Rhagnodi Cyffuriau GMS9

Yn Atodlen 2 i Reoliadau Rhagnodi Cyffuriau GMS (cyffuriau neu feddyginiaethau i’w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig)—

a

yng ngholofn 1 o’r tabl (cyffuriau), yn y cofnod sy’n ymwneud â chyffuriau ar gyfer trin camweithredu ymgodol—

i

hepgorer “Apomorphine Hydrochloride”, “Moxisylyte Hydrochloride” a “Thymoxamine Hydrochloride”; a

ii

ar ôl “Alprostadil” mewnosoder “Avanafil”;

b

yng ngholofn 2 o’r tabl (claf) yn y cofnod sy’n ymwneud â’r cyffur Oseltamivir (Tamiflu) ar gyfer trin y ffliw hepgorer y geiriad “who is aged 1 year or over and” ym mhob lle y mae’n ymddangos; ac

c

ar ddiwedd y tabl yn y ddarpariaeth ddehongli –

i

hepgorer y diffiniadau o “at-risk” a “child”; a

ii

mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

  • “at-risk” means in relation to a patient, a patient who—

a

has chronic respiratory disease (including asthma and chronic obstructive pulmonary disease);

b

has significant cardiovascular disease, excluding a patient who has hypertension only;

c

has chronic renal disease;

d

is immunocompromised;

e

has diabetes mellitus;

f

has chronic liver disease; or

g

has chronic neurological disease;