Offerynnau Statudol Cymru
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
6 Hydref 2016
Yn dod i rym
7 Hydref 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 144(8)(c)(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn(2).
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo yn unol ag adran 144(8ZA)(3) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Hydref 2016.
2. Ym mharagraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn lle “Local Government Boundary Commission for Wales” rhodder “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, drwy newid disgrifiad un o’r cyrff a restrir yn yr Atodlen honno. Mae’r cyfeiriad at Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae hyn yn dilyn ailenwi’r corff corfforaethol hwnnw o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Breiniwyd y pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 144(8)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn wreiddiol yn yr Ysgrifennydd Gwladol ond diwigiwyd adran 144(8) gan baragraff 45(7)(a) o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn rhoi Gweinidogion Cymru yn lle’r Ysgrifenydd Gwladol.
Ychwanegwyd is-adran (8ZA) o adran 144 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 gan baragraff 45(8) o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)