16.—(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn cysylltiad â phob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 5.
(2) Erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, rhaid i awdurdod lleol—
(a)anfon copi o’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed; a
(b)anfon copi o’r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 16 mewn grym ar 20.11.2017, gweler rhl. 1