RHAN 5 – Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc35.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru yn syrthio ar ddiwrnod pan fo’n ofynnol fel arfer i weithiwr amaethyddol weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.
(2)
Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 13.
(3)
Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod mewn cysylltiad â’r ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.