Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017

Gradd 3

6.—(1Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd blaenorol ac—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo —

(i)un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 2;

(ii)un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu

(iii)cymhwyster cyfatebol; neu

(b)sydd wedi ei ddynodi’n arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 3.

(2At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.