xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Yn ddarostyngedig i rai newidiadau ac un ddarpariaeth drosiannol ac arbed, mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016. Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2017.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn (erthygl 3) ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol (erthyglau 5 i 11).
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf y mae’n rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol (erthygl 12). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 15). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ar gyfer lwfans cŵn, lwfans ar alwad, lwfans gwaith nos a grantiau geni a mabwysiadu nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 16).
Mae Rhan 4 yn darparu bod gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan yr amgylchiadau sydd wedi eu pennu (erthyglau 18 i 21). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch cyfrifo faint o dâl salwch amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael (erthygl 22). Mae taliad tâl salwch statudol i gyfrif tuag at hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol (erthygl 23).
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael seibiannau gorffwys (erthygl 28). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd sy’n pennu blwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol ac ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ac ynghylch taliad yn lle gwyliau blynyddol (erthyglau 29 i 36). Mae darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth yn cael ei gwneud yn erthyglau 39 i 41.
Mae Rhan 6 yn cynnwys dirymiad a darpariaeth drosiannol.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.