Rheoliadau 5 a 6
1. Manylion cyswllt.
2. Enw’r unigolyn cyfrifol.
3. Enw’r rheolwr.
4. Cyfanswm nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (gan gynnwys swyddi sydd wedi eu llenwi a swyddi gwag).
5. Nifer y swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag ym mhob un o’r categorïau a ganlyn—
(a)rheolwr;
(b)dirprwy Reolwr;
(c)staff goruchwylio eraill;
(d)staff gofal nyrsio;
(e)nyrsys cofrestredig;
(f)uwch staff gofal cymdeithasol sy’n darparu gofal uniongyrchol;
(g)staff gofal cymdeithasol eraill sy’n darparu gofal uniongyrchol;
(h)staff domestig;
(i)staff arlwyo;
(j)mathau eraill o staff nad ydynt wedi eu rhestru uchod.
6. Os yw nifer y staff a gyflogir yn cynnwys staff o fath nad yw wedi ei restru ym mharagraff 5(a) i (i), manylion y math neu’r mathau o’r staff hynny.
7. Cyfradd trosiant staff.
8. Y mathau o drefniadau contractiol y mae staff wedi eu cyflogi arnynt a nifer y staff a gyflogir ar bob math o drefniant contractiol ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.
9. Cymwysterau’r staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.
10. Manylion unrhyw hyfforddiant perthnasol y mae staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5 wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cyflogi ynddo gan y darparwr gwasanaeth.
11. Manylion y raddfa ffioedd sy’n daladwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
12. Manylion yr ieithoedd a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth.
13. Manylion unrhyw ddulliau cyfathrebu nad ydynt yn rhai llafar a ddefnyddir.
14. Cyfanswm nifer y cwynion ffurfiol a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a chyfran y cwynion hynny na chawsant eu cadarnhau, a gafodd eu cadarnhau’n rhannol ac a gafodd eu cadarnhau.
15. Manylion y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â defnyddwyr y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth rheoleiddiedig.
16. Patrymau sifft nodweddiadol y staff a gyflogir, gan ddangos nifer y staff ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5(d), (e), (f) ac (g) sydd ar ddyletswydd yn ystod pob sifft.
17. Nifer yr ystafelloedd gwely sengl ac ystafelloedd gwely a rennir.
18. Nifer yr ystafelloedd gwely a chanddynt gyfleusterau en suite.
19. Nifer y lolfeydd/ystafelloedd bwyta cymunedol.
20. Nifer yr ystafelloedd ymolchi a chanddynt gyfleusterau cymorth ymolchi.
21. Manylion unrhyw le yn yr awyr agored y mae gan y preswylwyr fynediad iddo.
22. Manylion unrhyw gyfleusterau eraill y mae gan y preswylwyr fynediad atynt.