xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth i amrywio cofrestriad – adran 11(1)(a)(i) a (ii)

6.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i) a, phan fo’n briodol, adran 11(3)(a)(ii), gynnwys y canlynol—

(a)yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1;

(b)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo;

(c)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohono;

(d)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

7.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(ii), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—

(a)yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1;

(b)mewn cysylltiad â chais i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd mewn man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, datganiad o ddiben ar gyfer y man hwnnw;

(c)mewn cysylltiad â cheisiadau i amrywio cofrestriad i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli o fan nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, datganiad o ddiben ar gyfer y man hwnnw;

(d)mewn cysylltiad â chais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, datganiad o ddiben ar gyfer y man hwnnw.

8.  Rhaid i’r datganiad o ddiben y mae’n ofynnol ei ddarparu yn unol â rheoliad 6(b), (c) neu (d) neu yn unol â rheoliad 7(b), (c) neu (d) gynnwys yr wybodaeth a ddisgrifir yn Atodlen 2.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth ar gyfer amrywio – adran 11(1)(a)(iii) a (iv)

9.—(1Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(iii) neu (iv), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)y rheswm dros wneud y cais;

(c)datganiad ynghylch sut y mae’r darparwr gwasanaeth yn bwriadu parhau i gydymffurfio â’r rheoliadau a wneir o dan adran 27 hyd nes y bydd y gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu;

(d)manylion unrhyw hysbysiad a roddir ynghylch y cais arfaethedig i amrywio i—

(i)defnyddwyr y gwasanaeth;

(ii)yr awdurdod lleol y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig o fewn ei ardal;

(iii)y Bwrdd Iechyd Lleol y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig o fewn ei ardal;

(iv)unrhyw berson arall;

(e)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i amrywio’r cofrestriad lai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig, adroddiad ynghylch a yw’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi peidio â bod yn ariannol hyfyw neu’n debygol o beidio â bod yn ariannol hyfyw o fewn y 12 mis nesaf.

(2At ddiben y rheoliad hwn a rheoliad 10 ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” yw’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaeth yn gofyn amdano fel y dyddiad pan fo’r amrywiad y gwneir cais amdano i gymryd effaith.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth ar gyfer amrywio – adran 11(1)(b)

10.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(b), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys y canlynol—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)y rheswm dros wneud y cais;

(c)manylion unrhyw newidiadau y mae’r darparwr gwasanaeth yn bwriadu eu gwneud mewn perthynas â’r gwasanaeth rheoleiddiedig o ganlyniad i’r cais i amrywio neu ddileu, gan gynnwys manylion ynghylch—

(i)unrhyw newidiadau strwythurol arfaethedig i unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig;

(ii)unrhyw staffio, cyfleusterau neu gyfarpar ychwanegol neu newidiadau o ran rheoli sy’n ofynnol i sicrhau bod y newidiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu;

(d)unrhyw ddogfennaeth ategol y mae’r darparwr gwasanaeth yn ystyried y bydd yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru wrth wneud penderfyniad ynghylch pa un ai i gymeradwyo’r cais i amrywio neu ddileu amod.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ddarparwr gwasanaeth ar gyfer amrywio – adran 11(1)(c)

11.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad a wneir yn unol ag adran 11(1)(c), yn ychwanegol at yr wybodaeth a nodir yn adran 11(3)(a)(i), gynnwys yr wybodaeth a restrir ym mharagraffau 23 i 28 a pharagraffau 38 i 49 o Atodlen 1.

Ffurf y cais

12.  Rhaid i gais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth gael ei wneud ar ffurf cais ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu sefydlu at ddibenion hysbysu darparwyr gwasanaethau am y weithdrefn ar gyfer amrywio cofrestriad o dan Ran 1 o’r Ddeddf.

Terfyn amser y mae rhaid cyflwyno cais i amrywio ynddo pan na fo unigolyn cyfrifol dynodedig

13.  Y terfyn amser a ragnodir at ddibenion adran 11(2) yw 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad pan na fo unigolyn sydd wedi ei ddynodi’n unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad â’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.