Darparu gwybodaeth gan gomisiynwyr heddlu a throseddu6

1

Wrth ddyroddi praesept i awdurdod bilio ar gyfer blwyddyn ariannol rhaid i gomisiynydd heddlu a throseddu ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod bilio ynghylch—

a

yr amcangyfrifon a grybwyllir ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 3, a

b

y materion a grybwyllir ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o Atodlen 3.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r canlynol—

a

pan fyddai’r wybodaeth yn ailadrodd gwybodaeth a roddwyd o ran praesept a ddyroddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, neu

b

praesept amnewidiol.

3

Pan fo comisiynydd heddlu a throseddu wedi dyroddi praesept amnewidiol i awdurdod bilio rhaid i’r comisiynydd heddlu a throseddu ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â’r praesept amnewidiol hwnnw—

a

pan fo’r awdurdod bilio yn hysbysu’r comisiynydd heddlu a throseddu ei fod wedi pennu, neu’n bwriadu pennu, swm o dreth gyngor o dan adran 31 o Ddeddf 19926 drwy gyfeirio at y praesept amnewidiol, a

b

pan na fyddai’r wybodaeth yn ailadrodd gwybodaeth a roddwyd o ran praesept a ddyroddwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.