xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
34.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
(a)i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
(b)i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;
(c)i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;
(d)i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15.
(2) Yn achos gwasanaeth cartref gofal pan fo unrhyw unigolyn y darperir llety iddo wedi cael ei asesu yn rhywun y mae angen gofal nyrsio 24 awr arno, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod nifer digonol o nyrsys cofrestredig sydd â’r cymwysterau addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth ar bob adeg.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—
(a)y mathau o staff a ddefnyddir, a
(b)niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 22 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
(6) Ym mharagraff (5) o’r rheoliad hwn, mae i “contract oriau heb eu gwarantu” yr un ystyr ag yn rheoliad 42.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 34 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
35.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;
(c)bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
(d)[F1yn ddarostyngedig i baragraff (9A) o’r rheoliad hwn,] bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 i Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;
(e)[F2yn ddarostyngedig i baragraff (10) oʼr rheoliad hwn,] pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru;
[F3(f)yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i)â gwasanaeth cartref gofal,
(ii)â gwasanaeth llety diogel,
(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);]
[F4(g)yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i)â gwasanaeth cartref gofal,
(ii)â gwasanaeth llety diogel,
(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).]
(3) Rhaid i gais gael ei wneud ar gyfer y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).
(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6) Pan nad yw person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7) Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
(b)pan fo’n briodol, roi gwybod—
(i)i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;
(ii)i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
(8) Ym mharagraff (2)(f) o’r rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—
(a)chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu
(b)dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.
[F5(8A) Ym mharagraff (2)(g) oʼr rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—
(a)6 mis oʼr dyddiad y cymerir person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad—
(i)â gwasanaeth cartref gofal F6...,
(ii)â gwasanaeth llety diogel,
(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, F7...
[F8(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, neu]
(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.]
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan [F9adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012] .
[F10(9A) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer oedolion neu wasanaeth cymorth cartref i oedolion, mae’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni er bod y person a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn methu â darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraffau 4, 6, 8 a 9 o Ran 1 o Atodlen 1—
(a)os na all y person yn rhesymol ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn cysylltiad â’r materion hynny o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws,
(b)os yw’r person yn darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth mewn cysylltiad â’r materion hynny sydd mor llawn a boddhaol ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac
(c)os yw’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth a ddarperir ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni.]
[F11(10) Tan 1 Ebrill 2020, nid yw’r gofyniad o dan baragraff (2)(e) i reolwr fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn gymwys i reolwr sydd wedi ei benodi i reoli ymgymeriad—
(a)y mae person wedi ei gofrestru, neu wedi gwneud cais i gofrestru, mewn cysylltiad ag ef, fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, a
(b)yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i gynnal asiantaeth nyrsys o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn union cyn 2 Ebrill 2018 ond nad oedd hefyd wedi ei gofrestru i gynnal asiantaeth gofal cartref.]
[F12(11) Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—
(a)nyrs, neu
(b)proffesiynolyn cofrestredig.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 35(2)(d) wedi eu mewnosod (5.6.2020) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/570), rhlau. 1(2), 6(a)
F2Geiriau yn rhl. 35(2)(e) wedi eu mewnosod (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 9(a)
F3Rhl. 35(2)(f) wedi ei amnewid (1.10.2022) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/832), rhlau. 1(2), 3(a)
F4Rhl. 35(2)(g) wedi ei amnewid (1.10.2022) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/832), rhlau. 1(2), 3(b)
F5Rhl. 35(8A) wedi ei fewnosod (1.4.2020) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 (O.S. 2020/389), rhlau. 1(2), 12(c)
F6Geiriau yn rhl. 35(8A)(a)(i) wedi eu hepgor (1.10.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/832), rhlau. 1(2), 3(c)(i)
F7Gair yn rhl. 35(8A)(a) wedi ei hepgor (1.10.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/832), rhlau. 1(2), 3(c)(ii)
F8Rhl. 35(8A)(a)(iv) wedi ei fewnosod (1.10.2022) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/832), rhlau. 1(2), 3(c)(iii)
F9Geiriau yn rhl. 35(9) wedi eu hamnewid (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 9(b)
F10Rhl. 35(9A) wedi ei fewnosod (5.6.2020) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/570), rhlau. 1(2), 6(b)
F11Rhl. 35(10) wedi ei fewnosod (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 9(c)
F12Rhl. 35(11) wedi ei fewnosod (1.4.2020) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020 (O.S. 2020/389), rhlau. 1(2), 12(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
36.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
(a)yn cael cyfnod sefydlu sy’n briodol i’w rôl;
(b)yn cael ei wneud yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill.
(c)yn cael ei oruchwylio a’i arfarnu’n briodol;
(d)yn cael hyfforddiant craidd sy’n briodol i’r gwaith sydd i gael ei wneud ganddo;
(e)yn cael hyfforddiant arbenigol fel y bo’n briodol;
(f)yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach sy’n briodol i’r gwaith y mae’n ei wneud.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn cael ei gefnogi i gynnal ei gofrestriad â’r corff rheoleiddiol neu alwedigaethol priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 36 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
37. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 37 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
38.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 38 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
39.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.
(2) Rhaid i’r weithdrefn ddisgyblu gynnwys—
(a)darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogai er budd diogelwch neu lesiant pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth;
(b)darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gamdriniaeth, neu ar amheuaeth o gamdriniaeth, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.
(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—
(a)y darparwr gwasanaeth,
(b)yr unigolyn cyfrifol,
(c)swyddog i’r rheoleiddiwr gwasanaethau,
(d)swyddog i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y darperir y gwasanaeth ynddi,
(e)yn achos cam-drin neu o amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog i’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu
(f)swyddog heddlu.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 39 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)