- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—
(a)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—
(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
(b)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(c)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—
(i)yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(ii)mewn ymddiriedolaeth GIG;
(iii)mewn Bwrdd Iechyd Lleol.
(d)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—
(i)gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu
(ii)gan brifysgol.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.
At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1);
(e)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety a ddarperir yn gyfystyr â gofal dydd i blant, o fewn ystyr adran 19(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(2).
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—
(i)mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);
(ii)yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.
(f)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;
(g)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;
(h)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 1952(3);
(i)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen at ddibenion—
(i)gwyliau;
(ii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—
(i)mewn unrhyw achos pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl;
(ii)os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oed.
(2) At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.
(3) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.
3.—(1) Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—
(a)y ddarpariaeth o gymorth yn unig;
(b)y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;
(c)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—
(i)mewn perthynas deuluol neu bersonol, a
(ii)ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
(d)y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;
(e)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973(4)), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;
(f)trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;
(g)y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arall.
(2) Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
(3) Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—
(a)unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(5)) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
(b)unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;
(c)grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;
(d)ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.
(4) Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.
4. Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, er gwaethaf paragraff 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd)—
(a)y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn ysbyty(6);
(b)y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn hostel neu mewn lloches rhag trais domestig;
(c)mewn unrhyw achos arall, y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni sydd â’r prif ddiben o ddarparu llety ynghyd â gwasanaethau a chyfleusterau eraill i unigolion sy’n oedolion ac mae’r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i’r prif ddiben o ddarparu’r llety.
5. At ddibenion y Rhan hon—
(a)mae perthynas deuluol yn cynnwys perthynas rhwng dau berson sydd—
(i)yn byw yn yr un aelwyd, a
(ii)yn trin ei gilydd fel pe baent yn aelodau o’r un teulu;
(b)mae perthynas bersonol yn berthynas rhwng neu ymhlith ffrindiau;
(c)mae ffrind i berson (A) yn cynnwys person sy’n ffrind i aelod o deulu A.
Mae “ysbyty” wedi ei ddiffinio ym mharagraff 9 o Atodlen 1 i’r Ddeddf ac yn cynnwys clinig annibynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: