RHAN 2Eithriadau

Gwasanaethau cartrefi gofalI12

1

Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cartref gofal, er gwaethaf paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cartrefi gofal)—

a

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn—

i

mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

ii

ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

b

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion am gyfnod o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy’n gyfanswm o lai nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

c

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio, pan fo’r llety wedi ei freinio—

i

yng Ngweinidogion Cymru at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ii

mewn ymddiriedolaeth GIG;

iii

mewn Bwrdd Iechyd Lleol.

d

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu—

i

gan sefydliad o fewn y sector addysg bellach; neu

ii

gan brifysgol.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os yw nifer y personau y darperir y llety hwnnw iddynt yn fwy na degfed ran o nifer y myfyrwyr y mae’n darparu addysg a llety iddynt.

At ddibenion y paragraff hwn, mae i “sector addysg bellach” yr un ystyr â “further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199213;

e

F2y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan foʼr gofal a ddarperir yn gyfystyr â gwarchod plant o fewn ystyr adran 19(2), neu ofal dydd o fewn ystyr adran 19(3), o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ond nid ywʼr eithriad hwn yn gymwys—

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os—

i

mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, oes 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (pa un a yw’r plentyn o dan 12 oed ai peidio);

ii

yw’r llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl.

f

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant 16 oed a throsodd a dim ond at ddibenion galluogi’r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os F4darperir gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl ;

g

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant mewn hostel fechnïaeth a gymeradwyir neu hostel brawf a gymeradwyir;

h

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety yn sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchardai 195215;

i

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan fo’r llety wedi ei ddarparu i blant F5...at ddibenion—

i

gwyliau;

ii

gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys—

i

mewn unrhyw achos F7pan fo gofal yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl oni bai bod y darparwr gwasanaeth yn gyntaf wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y trefniadau ;

ii

os yw’r llety wedi ei ddarparu i unrhyw un plentyn am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, os nad yw’r llety ond wedi ei ddarparu i blant dros 16 oedF6;

F3j

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, i un plentyn neu i grŵp o frodyr a chwiorydd gan berson yng nghartref y person hwnnw ei hunan a phan na fo gofal a llety yn cael eu darparu gan y person hwnnw am gyfanswm o fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 misF14;

F11k

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F15l

y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion mewn gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol.

F102

At ddibenion paragraff (1)(e), (f) ac (i) o’r rheoliad hwn, mae plentyn yn “anabl” os oes gan y plentyn anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

3

Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

F14

Yn is-baragraff (1)(j) oʼr rheoliad hwn, mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd.

F165

At ddibenion paragraff (1)(l) o’r rheoliad hwn—

  • ystyr “gofal canolraddol” (“intermediate care”) yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn am gyfnod cyfyngedig at ddiben hybu gallu’r oedolyn i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun drwy—

    1. a

      osgoi ei dderbyn i ysbyty yn ddiangen,

    2. b

      lleihau hyd unrhyw dderbyniad i’r ysbyty drwy alluogi ei ryddhau yn amserol,

    3. c

      galluogi ei adferiad ar ôl ei ryddhau o’r ysbyty, neu

    4. d

      atal neu ohirio’i dderbyn i wasanaeth cartref gofal;

    ystyr “gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol” (“local authority intermediate care service”) yw gwasanaeth sy’n darparu gofal canolraddol—

    1. a

      a ddarperir gan awdurdod lleol i oedolyn yn unol â’i ddyletswyddau yn Rhan 2 neu 4 o Ddeddf 2014,

    2. b

      pan fo’r llety a ddefnyddir at ddibenion y gofal canolraddol wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, ac

    3. c

      pan fo unrhyw ofal a chymorth wedi ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref y mae’r awdurdod lleol wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

Gwasanaethau cymorth cartrefI23

1

Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth cymorth cartref, er gwaethaf paragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau cymorth cartref)—

a

y ddarpariaeth o gymorth yn unig;

b

y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar neu lai o unigolion ar unrhyw un adeg;

c

y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer oedolyn—

i

mewn perthynas deuluol neu bersonol, a

ii

ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;

d

y ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;

e

y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan ofalwr pan fo gofal a chymorth o’r fath yn cael ei ddarparu heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “employment agency” neu “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 197316), a phan fo’r gofalwr yn gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth trydydd parti cysylltiedig;

f

trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth gan ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi at ddiben darparu gwasanaeth rheoleiddiedig gan y darparwr gwasanaeth;

g

y ddarpariaeth o ofal a chymorth pan fo’r gofal a’r cymorth wedi eu darparu gan berson sy’n rheoli carchar neu sefydliad carcharu tebyg arallF8;

F9h

y ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig;

i

y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwallu anghenion syʼn gysylltiedig ag anghenion unigolion am ofal nyrsioF12.

F13j

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

2

Ym mharagraff (1)(e) ac (f), ystyr “gofalwr” yw unigolyn sy’n darparu gofal i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

3

Ym mharagraff (1)(e), ystyr “trydydd parti cysylltiedig” yw—

a

unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 198917) ar gyfer plentyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

b

unigolyn a chanddo atwrneiaeth neu awdurdod cyfreithlon arall i wneud trefniadau ar ran yr unigolyn y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddo;

c

grŵp o unigolion a grybwyllir naill ai yn is-baragraff (a) neu yn is-baragraff (b) sy’n gwneud trefniadau ar ran dim mwy na phedwar unigolyn a enwir y mae gofal a chymorth i gael eu darparu iddynt;

d

ymddiriedolaeth a sefydlir at ddiben darparu gwasanaethu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a enwir.

4

Gweler rheoliad 5 am ystyr perthynas deuluol neu bersonol.

Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoeddI34

Nid yw’r pethau a ganlyn i gael eu trin fel gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, er gwaethaf paragraff 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd)—

a

y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn ysbyty18;

b

y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni pan fo’r llety wedi ei ddarparu mewn hostel neu mewn lloches rhag trais domestig;

c

mewn unrhyw achos arall, y ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni sydd â’r prif ddiben o ddarparu llety ynghyd â gwasanaethau a chyfleusterau eraill i unigolion sy’n oedolion ac mae’r ffaith y gall yr unigolion hynny fod yn rhieni, neu y gall eu plant fod gyda hwy, yn ail i’r prif ddiben o ddarparu’r llety.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 4 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Ystyr perthynas deuluol neu bersonolI45

At ddibenion y Rhan hon—

a

mae perthynas deuluol yn cynnwys perthynas rhwng dau berson sydd—

i

yn byw yn yr un aelwyd, a

ii

yn trin ei gilydd fel pe baent yn aelodau o’r un teulu;

b

mae perthynas bersonol yn berthynas rhwng neu ymhlith ffrindiau;

c

mae ffrind i berson (A) yn cynnwys person sy’n ffrind i aelod o deulu A.