RHAN 20Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon82.

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi unrhyw bryderon yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 82 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd gonestrwydd83.

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—

(a)

ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth;

(b)

ag unrhyw gynrychiolwyr yr unigolion hynny;

(c)

yn achos plentyn y darperir llety iddo, â’r awdurdod lleoli.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 83 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Hysbysiadau84.

(1)

Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.

(2)

Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3)

Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

(4)

Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau.