RHAN 21Troseddau

Troseddau – darparwyr gwasanaethau85

1

Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)26.

2

Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 7(3), 7(5), 11(3), 12(1), 12(2), 19(1), 19(2), 19(3), 20(1), 35(1), 38(1), 59(1), 59(2), 59(3), 60(1), 60(2), 60(4), 61(3) a 62(3).

3

Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—

a

niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i unigolyn,

b

unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu

c

yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan unigolyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

4

Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau 6, 7(1), 12(5), 14(1), 14(3), 15(1), 15(3), 15(5), 16(1), 16(5), 18(1), 18(6), 18(7), 21(1), 21(2), 22, 26, 33(1), 34(1), 34(2) a 34(3).

Troseddau – unigolion cyfrifol86

1

Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)27.

2

Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau 67(1), 68(1), 71(1), 71(2), 73(1), 73(2), 73(3), 74(1), 74(2), 75(1), 80(4), 81(1), 84(1) a 84(3).