RHAN 22LL+CDarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw
Penodi datodwyr etc.LL+C
87.—(1) Rhaid i berson a benodir—
(a)yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;
(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’i fwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu;
mae i “person a benodir” (“appointed person”) yr un ystyr ag yn adran 30 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 87 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
Marwolaeth darparwr gwasanaethLL+C
88.—(1) Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—
(a)yn ddi-oed, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau;
(b)o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau o’u bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.
(2) Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno.
(3) Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;
(b)yn adran 21(2) (unigolion cyfrifol) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;”.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth neu’r gwasanaethau rheoleiddiedig yr oedd y darparwr gwasanaeth sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu eu darparu ar adeg ei farwolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 88 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)