26. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 26 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
27.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
(a)ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
(b)ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau o’r fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,
(b)cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth iddo,
(c)gwneud atgyfeiriadau priodol at asiantaethau eraill, a
(d)cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
(5) Pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i blant, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle—
(a)polisi ar atal bwlio;
(b)gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio;
(c)y weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fo unrhyw blentyn y darperir llety iddo yn absennol heb ganiatâd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 27 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
28.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.
(2) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i gael eu cymryd i alluogi a chefnogi pobl i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ariannol.
[F1(2A) Pan fo gwasanaeth yn darparu llety ar gyfer plant, rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn nodi’r camau y bydd y darparwr gwasanaeth yn eu cymryd i sicrhau y caiff cynilion a wneir gan neu ar ran plant eu goruchwylio a’u monitro’n ddigonol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cadw cofnodion o gynilion (a gwariant o gynilion) a throsglwyddo’r cofnodion hyn pan ddaw lleoliad i ben.]
(3) Pan fo arian unigolyn yn cael ei ddal gan y darparwr gwasanaeth at unrhyw ddiben (ac eithrio arian a ddelir at ddiben talu ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn yn unol ag unrhyw gytundeb â’r darparwr gwasanaeth), rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu—
(a)bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enw’r unigolyn neu mewn cyfrif sy’n golygu bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng arian pob unigolyn;
(b)nad yw unrhyw gyfrif o’r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â rheoli’r gwasanaeth.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau cyn belled ag y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gweithredu fel asiant i unigolyn.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 28(2A) wedi ei ychwanegu (1.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 (O.S. 2019/757), rhlau. 1(2), 7
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 28 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
29.—(1) Ni chaniateir darparu gofal a chymorth mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—
(a)yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall, a
(b)yn ymateb cymesur i risg o’r fath.
(2) Ni chaniateir defnyddio rheolaeth neu ataliaeth oni bai ei bod yn cael ei chyflawni gan staff sydd wedi eu hyfforddi yn y dull rheolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth a sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisi hwn.
(4) Rhaid i gofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo gael ei wneud o fewn 24 awr.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—
(a)yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu
(b)yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys defnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 29 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
30.—(1) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir llety iddo.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn y darperir gofal a chymorth iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 30 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
31. Ni chaniateir amddifadu unigolyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 31 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
32. Yn y Rhan hon—
ystyr “camdriniaeth” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac, mewn perthynas â phlentyn, unrhyw niwed arall.
At ddibenion y diffiniad hwn—
mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys—
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;
bod person yn cael ei dwyllo;
bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;
mae i “niwed” (“harm”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;
mae “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yn cynnwys gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 32 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)