RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 20102;

  • ystyr “asesiad darparwr” (“provider assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnal gan y darparwr gwasanaeth o dan reoliad 18;

  • ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”) mewn perthynas â phlentyn y darperir llety iddo fel rhan o wasanaeth cartref gofal neu wasanaeth llety diogel yw—

    1. a

      yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol hwnnw;

    2. b

      yn achos plentyn nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol yn Lloegr—

      1. i

        os yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn gan sefydliad gwirfoddol, y sefydliad gwirfoddol hwnnw;

      2. ii

        os yw’r plentyn wedi ei letya mewn ysgol gymhwysol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol (pa un ai wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 19963 neu fel arall), yr awdurdod lleol hwnnw;

      3. iii

        mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;

  • ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “ysgol gymhwysol” (“qualifying school”) yw ysgol sy’n wasanaeth cartref gofal yn rhinwedd cymhwyso paragraff 1(3) o Atodlen 1 i’r Ddeddf;

  • ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”)—

    1. a

      mewn perthynas ag oedolyn, yw’r canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd;

    2. b

      mewn perthynas â phlentyn, yw—

      1. i

        y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu

      2. ii

        y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;

  • ystyr “comisiynydd y gwasanaeth” (“service commissioner”) yw’r awdurdod lleol neu’r corff GIG sy’n gyfrifol am wneud trefniadau â’r darparwr er mwyn i ofal a chymorth gael eu darparu i unigolyn:

  • ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun o dan adran 54 neu adran 83 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “cynllun personol” (“personal plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 15(1);

  • ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw unrhyw berson a chanddo awdurdod cyfreithiol neu sydd wedi cael cydsyniad yr unigolyn i weithredu ar ran yr unigolyn;

  • mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn adran 3(1)(c) o’r Ddeddf;

  • ystyr “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”) yw’r datganiad o ddiben ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth wedi ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef4;

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20145;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

  • ystyr “y gwasanaeth” (“the service”) yw—

    1. a

      mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, y gwasanaeth a ddarperir mewn lleoliad penodedig;

    2. b

      mewn perthynas â gwasanaeth cymorth cartref, y gwasanaeth a ddarperir mewn perthynas ag ardal benodedig.

  • At ddiben y diffiniad hwn—

    1. i

      ystyr “lleoliad penodedig” (“specified location”) yw lleoliad a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo6;

    2. ii

      ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw ardal a bennir mewn amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth fel man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu mewn perthynas ag ef.

  • Ond nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys i gyfeiriadau at “y gwasanaeth” (“the service”) yn Rhan 22;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan 18 oed;

  • mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 19997 yn gymwys iddo;

  • ystyr “y rheoleiddiwr gwasanaethau” (“the service regulator”) yw Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol8;

  • ystyr “rheoleiddiwr y gweithlu” (“the workforce regulator”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru;

  • mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

    1. a

      personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

    2. b

      personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

  • ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr.

  • At ddiben y diffiniad hwn, mae i “cyflogai” a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee” a “worker” yn adran 230 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19969;

  • ystyr “yr unigolyn” (“the individual”), oni noda’r cyd-destun yn wahanol, yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n cael gofal a chymorth;

  • mae i “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”) yr un ystyr ag yn adran 21(1) o’r Ddeddf;

  • ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig10 sydd—

    1. a

      yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200611, neu

    2. b

      yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

  • ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir o dan Ddeddf Deintyddion 198412 sydd—

    1. a

      yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu

    2. b

      yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.