Gwybodaeth am y gwasanaethLL+C
19.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r canllaw—
(a)cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a’i ddiweddaru yn ôl yr angen,
(b)bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,
(c)cael ei roi i bob unigolyn sy’n cael gofal a chymorth,
(d)yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, gael ei roi i’r awdurdod lleoli, ac
(e)cael ei wneud ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant unigolyn.
(3) Rhaid i’r canllaw gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)gwybodaeth am sut i godi pryder neu wneud cwyn;
(b)gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 19 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)