- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—
(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;
(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—
(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;
(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;
(c)bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;
(d)bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 i Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;
(e)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru;
(f)pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn rhinwedd ac eithrio fel rheolwr ac yng nghwrs ei gyflogaeth fod y person yn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
(i)â gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant; neu
(ii)â gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).
(3) Rhaid i gais gael ei wneud ar gyfer y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).
(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.
(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.
(6) Pan nad yw person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.
(7) Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;
(b)pan fo’n briodol, roi gwybod—
(i)i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;
(ii)i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
(8) Ym mharagraff (2)(f) o’r rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—
(a)chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu
(b)dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: