RHAN 10LL+CGofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran staffio

Addasrwydd staffLL+C

35.—(1Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(b)caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny;

(c)caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth neu â phersonau eraill sy’n hyglwyf oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da;

(b)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i’w wneud;

(c)bod y person oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawni’n briodol y tasgau sy’n rhan annatod o’r gwaith y mae wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen ar ei gyfer;

(d)F1... bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un o’r materion a bennir yn Rhan 1 i Atodlen 1 a bod yr wybodaeth hon neu’r ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i’r rheoleiddiwr gwasanaethau edrych arni;

(e)[F2yn ddarostyngedig i baragraff (10) oʼr rheoliad hwn,] pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru;

[F3(f)[F4yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”);]

[F5(g)[F6yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan foʼr person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).]

(3) Rhaid i gais gael ei wneud ar gyfer y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraffau 2 a 3 o Atodlen 1 (y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel tystysgrif GDG) gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r person sy’n gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaru’r GDG).

(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6) Pan nad yw person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif newydd GDG mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7) Os nad yw unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion perthnasol;

(b)pan fo’n briodol, roi gwybod—

(i)i’r corff rheoleiddiol neu broffesiynol perthnasol;

(ii)i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

(8) Ym mharagraff (2)(f) o’r rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

(a)chwe mis o’r dyddiad y dechreuodd y person ei gyflogaeth, neu

(b)dyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

[F7(8A) Ym mharagraff (2)(g) oʼr rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

(a)6 mis oʼr dyddiad y cymerir person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal F8...,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, F9...

[F10(iv)â gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, neu]

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.]

(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan [F11adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012] .

F12(9A) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F13(10) Tan 1 Ebrill 2020, nid yw’r gofyniad o dan baragraff (2)(e) i reolwr fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn gymwys i reolwr sydd wedi ei benodi i reoli ymgymeriad—

(a)y mae person wedi ei gofrestru, neu wedi gwneud cais i gofrestru, mewn cysylltiad ag ef, fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, a

(b)yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i gynnal asiantaeth nyrsys o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn union cyn 2 Ebrill 2018 ond nad oedd hefyd wedi ei gofrestru i gynnal asiantaeth gofal cartref.]

[F14(11) Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—

(a)nyrs, neu

(b)proffesiynolyn cofrestredig.]]]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 35 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)