xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
44.—(1) Nid yw’r gofynion yn y rheoliad hwn ond yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod dyluniad ffisegol, cynllun a lleoliad y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn addas i—
(a)cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben;
(b)diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion;
(c)cefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.
(3) Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion paragraffau (4) i (6) o’r rheoliad hwn.
(4) Rhaid i’r fangre—
(a)bod yn hygyrch ac wedi ei goleuo, ei gwresogi a’i hawyru’n ddigonol;
(b)bod yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig;
(c)bod wedi ei dodrefnu a’i chyfarparu’n addas;
(d)bod o adeiladwaith cadarn ac wedi ei chadw mewn cyflwr strwythurol da yn allanol ac yn fewnol;
(e)bod wedi ei ffitio a’i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu anghenion unigolion;
(f)bod wedi ei threfnu fel bod y cyfarpar a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth wedi ei leoli’n briodol;
(g)bod yn rhydd rhag peryglon i iechyd a diogelwch unigolion ac unrhyw bersonau eraill a all wynebu risg, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol;
(h)bod wedi ei chynnal a’i chadw’n briodol;
(i)bod wedi ei chadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y caiff ei defnyddio.
(5) Rhaid i’r fangre gael ystafelloedd gwely sydd—
(a)yn cynnwys cyfleusterau priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu) sy’n meddiannu’r ystafell wely;
(b)o faint digonol, gan roi sylw i—
(i)a yw’r ystafell yn cael ei rhannu neu’n ystafell meddiannaeth sengl;
(ii)y cynllun a’r dodrefn;
(iii)y cyfarpar sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);
(iv)nifer y staff sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);
(c)yn gyfforddus ar gyfer yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell wedi ei rhannu):
(d)yn rhoi rhyddid symud a phreifatrwydd i’r unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu).
(6) Rhaid i’r fangre gael lle eistedd, hamdden a bwyta a ddarperir ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun a rhaid i unrhyw le o’r fath fod—
(a)yn addas ac yn ddigonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben;
(b)wedi ei lleoli er mwyn galluogi pob person sy’n defnyddio’r lle i gael mynediad iddo yn hawdd ac yn ddiogel.
(7) Rhaid i unrhyw le cymunedol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth fod yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy’n briodol i amgylchiadau’r unigolion.
(8) Rhaid i gyfleusterau addas gael eu darparu er mwyn i unigolion gwrdd ag ymwelwyr yn breifat mewn lle sydd ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun.
(9) Rhaid i’r fangre gael toiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd sydd—
(a)o nifer digonol ac o fath addas i ddiwallu anghenion yr unigolion;
(b)wedi eu cyfarparu’n briodol;
(c)wedi eu lleoli er mwyn galluogi pob person i gael mynediad iddynt yn hawdd ac yn ddiogel.
(10) Rhaid i’r fangre gael tiroedd allanol sy’n hygyrch ac sy’n addas ac sy’n ddiogel i unigolion eu defnyddio a rhaid iddynt gael eu cynnal a’u cadw’n briodol.
(11) Rhaid i’r fangre gael cyfleusterau addas ar gyfer staff y mae rhaid iddynt gynnwys—
(a)cyfleusterau storio addas, a
(b)pan fo’n briodol, llety cysgu a chyfleusterau newid addas.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 44 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)