RHAN 12Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Mangreoedd – gwasanaethau llety yn unig

44.—(1Nid yw’r gofynion yn y rheoliad hwn ond yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod dyluniad ffisegol, cynllun a lleoliad y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn addas i—

(a)cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben;

(b)diwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolion;

(c)cefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

(3Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion paragraffau (4) i (6) o’r rheoliad hwn.

(4Rhaid i’r fangre—

(a)bod yn hygyrch ac wedi ei goleuo, ei gwresogi a’i hawyru’n ddigonol;

(b)bod yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig;

(c)bod wedi ei dodrefnu a’i chyfarparu’n addas;

(d)bod o adeiladwaith cadarn ac wedi ei chadw mewn cyflwr strwythurol da yn allanol ac yn fewnol;

(e)bod wedi ei ffitio a’i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu anghenion unigolion;

(f)bod wedi ei threfnu fel bod y cyfarpar a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth wedi ei leoli’n briodol;

(g)bod yn rhydd rhag peryglon i iechyd a diogelwch unigolion ac unrhyw bersonau eraill a all wynebu risg, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol;

(h)bod wedi ei chynnal a’i chadw’n briodol;

(i)bod wedi ei chadw’n lân yn unol â safon sy’n briodol at y diben y caiff ei defnyddio.

(5Rhaid i’r fangre gael ystafelloedd gwely sydd—

(a)yn cynnwys cyfleusterau priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu) sy’n meddiannu’r ystafell wely;

(b)o faint digonol, gan roi sylw i—

(i)a yw’r ystafell yn cael ei rhannu neu’n ystafell meddiannaeth sengl;

(ii)y cynllun a’r dodrefn;

(iii)y cyfarpar sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(iv)nifer y staff sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu);

(c)yn gyfforddus ar gyfer yr unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell wedi ei rhannu):

(d)yn rhoi rhyddid symud a phreifatrwydd i’r unigolyn (os yw’r ystafell yn ystafell meddiannaeth sengl) neu’r unigolion (os yw’r ystafell yn cael ei rhannu).

(6Rhaid i’r fangre gael lle eistedd, hamdden a bwyta a ddarperir ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun a rhaid i unrhyw le o’r fath fod—

(a)yn addas ac yn ddigonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben;

(b)wedi ei lleoli er mwyn galluogi pob person sy’n defnyddio’r lle i gael mynediad iddo yn hawdd ac yn ddiogel.

(7Rhaid i unrhyw le cymunedol a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth fod yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy’n briodol i amgylchiadau’r unigolion.

(8Rhaid i gyfleusterau addas gael eu darparu er mwyn i unigolion gwrdd ag ymwelwyr yn breifat mewn lle sydd ar wahân i ystafelloedd preifat yr unigolyn ei hun.

(9Rhaid i’r fangre gael toiledau, ystafelloedd ymolchi a chawodydd sydd—

(a)o nifer digonol ac o fath addas i ddiwallu anghenion yr unigolion;

(b)wedi eu cyfarparu’n briodol;

(c)wedi eu lleoli er mwyn galluogi pob person i gael mynediad iddynt yn hawdd ac yn ddiogel.

(10Rhaid i’r fangre gael tiroedd allanol sy’n hygyrch ac sy’n addas ac sy’n ddiogel i unigolion eu defnyddio a rhaid iddynt gael eu cynnal a’u cadw’n briodol.

(11Rhaid i’r fangre gael cyfleusterau addas ar gyfer staff y mae rhaid iddynt gynnwys—

(a)cyfleusterau storio addas, a

(b)pan fo’n briodol, llety cysgu a chyfleusterau newid addas.