45.—(1) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth cartref gofal sy’n cynnwys darparu llety i unigolion sy’n oedolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob oedolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys naill ai—
(a)os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, neu
(b)os yw paragraff (3) yn gymwys.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod oedolyn yn cytuno i rannu ystafell ag oedolyn arall;
(b)bod rhannu ystafell yn gyson â llesiant y ddau oedolyn;
(c)bod cynlluniau personol y ddau oedolyn wedi cael eu hadolygu a’u diwygio yn ôl yr angen;
(d)nad yw nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth.
[F1(2A) Bydd yr amod ym mharagraff (2)(d) yn parhau i gael ei fodloni er bod nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth pan na fo’r nifer yn fwy na’r terfyn ond oherwydd bod llety y mae ei angen o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws yn cael ei ddarparu mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020.]
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)roedd y gwasanaeth cartref gofal wedi ei gofrestru fel cartref gofal o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b)roedd nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir ar yr adeg berthnasol yn fwy na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael eu lletya gan y gwasanaeth ar yr adeg berthnasol;
(c)roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir[F2—
(i)yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol, neu
(ii)wedi eu darparu â’r llety ar 5 Mehefin 2020 neu wedi hynny mewn ystafelloedd a oedd heb eu meddiannu yn union cyn 5 Mehefin 2020 ac mae angen y llety o ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws.]
(4) Ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn, ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg yr oedd y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru o dan y Ddeddf yn ddarparwr y gwasanaeth cartref gofal.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 45(2A) wedi ei fewnosod (5.6.2020) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/570), rhlau. 1(2), 7(a)
F2Rhl. 45(3)(c)(i)(ii) wedi ei amnewid (5.6.2020) gan Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (O.S. 2020/570), rhlau. 1(2), 7(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 45 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)