Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agoredLL+C

53.  Rhaid i’r tiroedd allanol [F1(neu, yn achos mangre Categori B, unrhyw ran oʼr tiroedd allanol a ddatblygir ar y cyd ag adeiladuʼr estyniad)] a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(10)—

(a)bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,

(b)bod â digon o seddi addas, ac

(c)wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd â namau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 53 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)